Taflenni i helpu disgyblion i ddisgrifio'u personoliaeth
Taflenni wedi eu diwygio o adnoddau Barclays
1 of 3
More Related Content
Taflenni Personoliaeth
1. Mathau o bersonoliaethau mewn anifeiliaid
Llew
Mae llewod yn arweinwyr naturiol ac yn ddewr iawn.
Maen nhw hefyd yn hoffi trefn a llonyddwch. Gallai’r
nodweddion hyn fod yn gysylltiedig â rhywun sy’n
dangos sgiliau arweinyddiaeth ac yn mwynhau’r
broses o ddatrys problemau.
Neidr
Mae nadroedd yn ddigyffro ac yn aros yn bwyllog dan
bwysau. Byddai rhywun sy’n dangos nodweddion
tebyg yn sicr yn hoffi cael gwybodaeth drylwyr cyn
gwneud unrhyw benderfyniadau.
Crocodeil
Mae crocodeiliaid yn gryf, yn wydn ac yn ffyddlon
iawn. Byddai rhywun sydd â nodweddion tebyg yn
hoffi arsylwi ac ystyried y dewis gorau cyn gwneud
penderfyniadau, ac yn wych am gofio manylion.
Aderyn
Mae adar yn gwerthfawrogi eu rhyddid ac yn
annibynnol iawn. Byddai rhywun sydd â nodweddion
tebyg yn mwynhau teithio, gweld lleoedd newydd a
dod o hyd i brofiadau newydd. Byddai ganddo/ganddi
olwg oddi uchod ar bopeth sy’n digwydd, felly mae’n
yn wych am ystyried y darlun cyflawn.
Mwnci
Mae mwncïod yn anifeiliaid cymdeithasol sy’n hoffi
treulio eu hamser yng nghwmni pobl eraill, ac mae
ganddyn nhw ddiddordeb mewn unrhyw beth ac
unrhyw un newydd. Gallai’r anifail hwn fod yn
gysylltiedig â phobl sy’n fywiog iawn, yn egnïol, yn
frwdfrydig ac yn mwynhau parti.
Arth
Mae eirth yn hoff o’u cartrefi ac yn hoffi bod yn agos
at eu teulu a’u ffrindiau. Gallai rhywun sydd â’r
nodwedd hon fod yn ofalgar ac yn garedig a chadw
golwg ar y rhai y mae’n poeni amdanyn nhw, gan
ystyried teimladau pobl eraill cyn ei
deimladau/theimladau ei hun. Bydd hefyd yn
ymhyfrydu mwy yng nghyflawniadau pobl eraill na’i
r(h)ai ei hun.
Hipopotamws
Mae’r hipo yn gymeriad penderfynol iawn. Mae pobl
benderfynol yn hoffi cwblhau pethau, ni waeth pa mor
anodd ydyn nhw. O bryd i’w gilydd, gallai pobl sy’n
arddangos y nodweddion hyn fod yn esgeulus yn eu
brwdfrydedd i orffen y dasg, ac efallai na fyddan
nhw’n meddwl am ganlyniadau eu gweithredoedd bob
tro.
Jiráff
Mae jiraffod yn greaduriaid trefnus. Pe byddai rhywun
yn dangos nodweddion tebyg, byddai’n cynllunio ar
gyfer pob gweithgaredd ac yna’n dilyn y cynllun
hwnnw nes i’r dasg gael ei chwblhau. Byddai hefyd yn
bendant iawn.
Eliffant
Mae eliffantod yn ddeallus ac mae ganddyn nhw gof
da iawn. Byddai rhywun â nodweddion tebyg yn gallu
galw manylion am ddigwyddiadau i gof yn rhagorol ac
ni fyddai byth yn anghofio digwyddiadau eraill. Byddai
ganddo/ganddi’r dewrder a’r penderfyniad i wneud i
bethau ddigwydd.
Sebra
Mae sebras yn hoffi cadw eu teimladau iddyn nhw’u
hunain. Efallai na fydd rhywun â’r nodwedd hon yn
awyddus i fynegi sut mae’n teimlo, sy’n gallu drysu
pobl eraill. Hoffai’r bobl hyn gael strwythur i’w helpu i
fwrw ymlaen â’r dasg a gellir ymddiried ynddyn nhw i
weithio’n annibynnol.
2. Beth yw fy nghryfderau i?
Amlygwch y 10 gair rydych chi’n meddwl sy’n disgrifio eich personoliaeth chi orau. Peidiwch â threulio gormod o
amser yn meddwl am bob un ohonyn nhw; ewch â’r ymateb cyntaf. Nawr, cyfrifwch sail gair o’ch 10 gair dewisol sy’n
perthyn i bob categori.
Anturus 6 Uchelgeisiol 1 Pwyllog 2 Gofalgar 2
Ystyriol 2 Adeiladol 4 Cydweithredol 3 Yn ymdopi â newid 3
Penderfynol 1 Disgybledig 5 Llawn dychymyg 6 Brwdfrydig 3
Yn gorffen pethau 5 Canolbwyntiedig 1 Cyfeillgar 2 Yn gweithio’n galed 1
Cymdeithasgar 2 Cynorthwyol 3 Optimistaidd 2 Yn dwt ac yn daclus 5
Trefnus 5 Dyfal 4 Hunanhyderus 3 Ymarferol 4
Realistig 4 Dibynadwy 1 Amcanus 6 Hunanddisgybledig 5
Llawn cymhelliant 4 Dyfeisgar 6 Delfrydyddol 6
Nifer y geiriau a nodwyd
Categori 1
Categori 2
Categori 3
Categori 4
Categori 5
Categori 6
Edrychwch ar y disgrifyddion ar Sleid Cyflwyniad PDF 1.4 a nodwch ba gategorïau sgiliau rydych chi’n cyfateb iddyn
nhw. Nawr, rhestrwch y categorïau yn nhrefn y sgôr uchaf i’r isaf ar y grid isod (personality matches).
Meddyliwch am ba fathau o yrfa a all fod yn addas ar gyfer y sgiliau rydych chi wedi’u nodi fel eich cryfderau chi. A
yw’r yrfa sydd gennych chi mewn golwg yn cydweddu â’ch cryfderau neu a oes meysydd y mae angen i chi eu
datblygu?
Fy nghydweddiadau personoliaeth:
3. Rhoi popeth at ei gilydd
Er mwyn gwneud y dewisiadau cywir pan fyddwch chi’n gadael eich rhaglen astudio bresennol, mae angen i chi fod
yn glir ynghylch pa fathau o weithgareddau sy’n eich ysbrydoli ac yn eich ysgogi i wneud yn dda. Bydd deall eich
personoliaeth a’ch sgiliau cryfaf yn eich helpu i wneud penderfyniadau da am eich dyfodol.
Defnyddiwch y diagram i ysgrifennu o dan bob pennawd beth yw eich cryfderau allweddol, eich diddordebau a
nodweddion eich personoliaeth. Yna, meddyliwch am eich dyheadau ar gyfer gyrfa. A oes unrhyw beth rydych chi
wedi bod eisiau ei wneud erioed neu broffesiwn rydych chi wedi eisiau bod yn rhan ohono? Byddwch chi eisoes wedi
ystyried hyn i ryw raddau wrth benderfynu eich opsiynau yn 16 oed a’r rhaglen astudio rydych chi’n ei dilyn nawr.
Ond beth sy’n dod nesaf?
Y llwybrau dilyniant gorau fydd y rhai sy’n cyfuno agweddau ar bob un o’r tri maes. Felly, yr adran sy’n gorgyffwrdd
yn y diagram yw lle gallwch chi gofnodi’r holl lwybrau posibl i’w dilyn, p’un a yw hynny’n astudiaethau pellach,
cyflogaeth neu hyfforddiant.
Strengths – Cryfderau (gan gynnwys eich sgiliau)
Personality – Personoliaeth (gan gynnwys nodweddion/rhinweddau)
Interests – Diddordebau/Profiad
Aspirations - Dyheadau
Cryfderau
Diddordebau
au
Personoliaeth
Dyheadau
Dyheadau
Cryfderau