Hamdden a Thwristiaeth TGAU
Prosiect eDdysg @ Ysgol y Preseli
1 of 6
More Related Content
Twristiaeth Gynaliadwy
1. Cyrraedd gofynion anghenion twristiaid heb
effeithio’n fawr ar yr amgylchedd, y diwylliant lleol a’r
bobl a’r anifeiliad yn y hir-dymor.
2. Sut gall cyrchfannau bod yn fwy
gynaliadwy?
Mae gosod llwybrau pren ar hyd ardaloedd sensitif
mewn coedwigoeddyn atal ymwelwyr rhag tarfu ar
lystyfiant ar lawr y goedwig yn enghraifft dda o
reoli twristiaeth yn gynaliadwy.
Beth yw eich
syniadau chi?
3. Sut mae twristiaid yn gallu ymddwyn mewn ffordd gyfrifol a chefnogi twristiaeth gynaliadwy?
Trwy:
Prynu’n lleol, bwyta’n lleol ac aros yn lleol.
1.Prynu’n
lleol
Mae prynu’n lleol yn golygu prynu
nwyddau (‘goods’) sy’n cael eu tyfu’n
lleolgan gynhyrchwyr lleol yn hytrach na
phrynu o’r archfarchnadoedd mawr e.e.
Tesco
Mae hyn yn helpu i leihau’r ‘milltiroedd
bwyd’ neu’r ‘carbon footprint’, yn ogystal
â chefnogi busnesau lleol. Trwy brynu’n
lleol mae hyn yn rhoi swyddi i bobl leol
ac yn cefnogi ac adnewyddu y
cymunedau lleol.
5. 2.Bwyta’n
lleol
Mae hyn yn cyfeirio at fwyta
mewn tai bwyta a chaffis
sy’n cael eu rheoli gan bobl
leol yn hytrach na thai bwyta
cadwynrhyngwladol e.e Mc
Donalds, Frankie & Bennys.
Bydd hyn yn creu mwy o
swyddi i’r bobl leol ac yn
lleihau’r symiau o arian sy’n
‘dianc’.
(Ystyr ‘dianc’ yw arian sy’n cael ei wario yn yr
ardal ond nid yw’n aros yn yr ardal e.e. arian
McDonalds yn mynd i McDonalds a nid i’r
gymuned)
6. 3. Aros yn
lleol
Mae hyn yn cyfeirio at aros mewn llety
sy’n eiddo i boblleol a sy’n cael eu rheoli
ganddynt (yn hytrach nag aros mewn
gwestai sy’n eiddo i gwmnïau rhyngwladol
neu gadwyni e.e ‘Hilton’ neu ‘Premier
Inn’).
Eto, bydd hyn yn helpu i gadw mwy o
arian yn yr ardal a chefnogi’r gymuned
leol.
Mae aros mewn llety sy’n eiddo i
bobl leol a bwyta bwyd a gynhyrchir
yn lleol yn cefnogi twristiaeth
gynaliadwy.